


Duder a Metal: O Nu-Metal i Baddiecore
Essay by Francesca Sobande | 04.03.25
Yn y traethawd’ma mae Francesca Sobande yn cloddio i mewn yr effaith ddiwylliannol o Nu-Metal. Olrhain mewn y lleoliad o’r tarddiad i’r canghennau cyfoes mae hi’n amlygu’r dylanwad o diwylliantau gerddoriaeth Du arni hi o bobl Du arni hi.
Read the essay in English here.
Mae “Numb” gan un o’m hoff fandiau, Linkin Park yn cynnwys y llinell agoriadol gofiadwy: “I’m tired of being what you want me to be”. Mae negeseuon y gân yn symboleiddio delwedd nu-metal: yn cyfleu poen a grym ffurfiau o ddatgysylltiad a dadrithiad, ochr yn ochr â chwilio am y rhyddid i deimlo a'r teimlad o ryddid.
Creodd nu-metal hafan lle gall pobl fynegi ing ac emosiynau eraill trwy gerddoriaeth sy'n tynnu ar arddulliau sonig amrywiol - o ffync, grynj, a hip-hop i fetal, R&B, rap, a mwy. Mae peth o’r drafodaeth a’r ddogfennaeth ar hanes nu-metal yn cydnabod dylanwad diwylliant a chreadigrwydd Du, sef rap. Fodd bynnag, fel y nodir yn ymchwil a gwaith Laina Dawes, anaml y mae gwaith menywod Du yn cael sylw mewn naratifau ar fetal.
Yn flaenorol, ymchwiliais i The Digital Lives of Black Women in Britain. Roedd hyn yn cynnwys myfyrdodau ar y berthynas rhwng cerddoriaeth, y cyfryngau, y rhyngrwyd, a hiraeth. Wrth feddwl am fy mhrofiadau ar-lein yn fy arddegau, ysgrifennais am “gloddio drwy Xanga am ddemos cerddoriaeth emo ac ôl-galed y 'seroau', rhwng pori'n llawn dyhead drwy nwyddau bandiau Fueled by Ramen, pan oedd Fall Out Boy newydd ddechrau ymddangos ar glawr cylchgrawn Kerrang!” Mae’r atgofion hynny’n adlewyrchu fy niddordeb hirsefydlog mewn portreadau digidol a diwylliant pop o roc “amgen”. Gan adeiladu ar hynny, yn y darn hwn rwy'n troi fy sylw at nu-metal a'i ganghennau (e.e. baddiecore).
R&B, Roc a Rôl, a Menywod Du
Cyn myfyrio ar natur nu-metal, mae'n bwysig cofio bod gwreiddiau roc mewn rhythm a blŵs (R&B). Mae hyn yn dal i gael ei ystyried yn ddatganiad dadleuol. Gall danio ymatebion beirniadol sy’n gwyngalchu roc ac yn ceisio’i ddosbarthu mewn categori “ôl-hiliol” – heb unrhyw gysylltiad â gwleidyddiaeth hiliol a hiliaeth, er y mudiadau sefydledig “Rock Against Racism” a “Love Rock, Hate Racism”.
Fel yr amlygwyd gan ymchwil craff Maureen Mahon ar Black Diamond Queens: African American Women and Rock and Roll, trwy gydol hanes mae “deinameg hil a rhywedd wedi’i chyfleu drwy ddiwydiant recordio sydd wedi’i drefnu yn unol â set arall o ffiniau: categorïau genre”. Mae Yacht Rock: A Dockumentary HBO (2024) yn codi'r pwynt hwn: mae'r diwydiant yn aml yn fframio cerddoriaeth menywod Du fel R&B yn awtomatig, heb ystyried arwydd-sain neu hunan-ddiffiniad yr artist.
Er bod y diwydiant cerddoriaeth yn tueddu i drin categorïau genre fel nodweddion sefydlog, yn amlwg maen nhw’n esblygu ac yn symbol o frwydrau pŵer, fel sut mae rhai mathau o gerddoriaeth (e.e. R&B) yn cael eu hail-fframio (fel roc) gan ac ar gyfer y brif ffrwd (wen). Unwaith eto, fel y noda gwaith Mahon, mae ’na lawer o “...ffyrdd gwahanol y mae artistiaid, bandiau, cerddorion a ffans yn (a ddim yn) cofleidio rhai labeli genre...”. Yn wir, “gwnaeth llafur lleisiol menywod Affricanaidd-Americanaidd danio roc yn ystod yr hyn a elwir bellach y 'cyfnod roc clasurol' trwy gyfnewidiadau traws-hiliol, traws-ryweddol nad oes fawr o sylw wedi'u rhoi iddynt yn hanes roc”. Tynnir sylw at hyn hefyd yn y ffilm ddogfen o 2013, 20 Feet from Stardom, sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y diwydiant – croestoriadau hiliaeth, rhywiaeth, a chasineb at fenywod (neu misogynoir fel y cyfeiriwyd ato’n ingol gan Moya Bailey) a’u heffaith ar yrfaoedd cantorion benywaidd Du a’r diffyg sylw a wynebwyd ganddyn nhw. Gall canolbwyntio ar hyn mewn perthynas â nu-metal a genres cyfagos ddyfnhau dealltwriaeth o wleidyddiaeth hiliol a rhywedd cerddoriaeth o'r fath.
Nu-Metal, Cyfryngau Newydd, a Duder
Fel y nodir yn llyfr hollbwysig Laina Dawes, What Are You Doing Here?: A Black Woman's Life and Liberation in Heavy Metal, mae cerddoriaeth yn cael effaith ddofn ar bobl. Mae’n creu cysylltiadau emosiynol â genres a’r negeseuon a’r cymunedau sydd wrth eu gwraidd. Nid yw nu-metal yn eithriad i hyn. Fodd bynnag, fel gyda llawer o genres, mae nu-metal yn cael ei wawdio a'i drysori fel ei gilydd - gan esgor ar memes doniol, sylwebaethau difrifol, a phopeth yn y canol. Gan gofleidio ysbryd hiwmor a didwylledd, yma rwy'n trafod y ddeinameg rhwng duder, diwylliant digidol, nu-metal, a metal caled yn ehangach.
Yn unol â hiraeth diweddar y cyfryngau a’r byd marchnata am y 2000au, mae hanes a hanesion nu-metal wedi cael sylw o'r newydd yn y 2020au. Yn wahanol i'r adeg pan ddaeth y genre i'r amlwg tua diwedd yr 20fed a dechrau'r 21ain ganrif, mae nu-metal bellach yn bodoli mewn byd lle mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cario mwy o bwys na blogio a phethau fel Myspace. Mewn geiriau eraill, mae sŵn a newydd-deb nu-metal heddiw yn cynnwys cynnwys digidol ar draws gwefannau a phlatfformau fel discord, Instagram, TikTok, X (Twitter gynt), YouTube, a llawer mwy. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i nu-metal ymrafael â’i statws hiraethus cymharol “newydd” a chymdeithas sy’n boddi mewn cyfryngau cymdeithasol. At hynny, rhaid i nu-metal wneud synnwyr o wleidyddiaeth ei orffennol a'i bresennol, gan gynnwys sut mae gormesau rhyng-gysylltiedig (e.e. hiliaeth, rhywiaeth, a chasineb at fenywod) yn ei ffurfio.
O’i duedd i gofleidio lleisiau gyddfol i’w fynegiant o ofnau a theimladau o “ymladd neu ffoi”, clymwyd nu-metal wrth fynegiannau o agwedd a dadrithiad. Mae'r rhain yn cynnwys delweddau a syniadau dystopaidd a lywiwyd gan dechnoleg ar droad y trydydd mileniwm (er enghraifft, myth byg y mileniwm). Nid nu-metal yw'r unig fath o gerddoriaeth i ddelio ag emosiynau ac egni o'r fath, gan gynnwys y niweidiau sy’n gysylltiedig â diffyg teimlad a'r awydd i fod yn rhydd ohono. Ond mae nu-metal yn gwbl unigryw wrth fynegi hyn ar y groesffordd rhwng diwedd un ganrif a dechrau un arall, tra'n bownsio'n ôl ac ymlaen rhwng ffiniau genres a sut maen nhw wedi cael eu hadeiladu ar sail hil a rhywedd.
Mewn sawl ffordd, mae duder wrth wraidd metal, sydd â'i wreiddiau mewn roc (hynny yw, R&B). Wedi’u cysylltu ag estheteg sy’n seiliedig ar arlliwiau o ddu, mae cerddoriaeth ac isddiwylliannau metal yn aml yn cael eu hystyried yn “dywyll”, a hefyd yn rhywle lle mae pobl â chroen tywyll yn profi hiliaeth, lliwiaeth, senoffobia, a gormesau eraill. Mae llawer o enghreifftiau o gadarnleoedd goruchafiaethwyr gwyn o fewn y byd metal, ond mae ’na hefyd lawer o enghreifftiau o sut mae cyfraniadau a diwylliant pobl Ddu wedi siapio metal a'i gyfeiriadau arloesol di-ri. Yn y pen draw, mae duder metal yn ymwneud â llawer mwy na'r gwisgoedd monocromatig a'r gosodiadau llwyfannu sy'n aml yn rhan ohono.
Mae casgliadau archif The Museum of Youth Culture yn cynnwys ffotograffau cofiadwy sy'n portreadu pobl Ddu mewn gofodau metal. Mae delweddau o’r fath yn cynnwys rhai o bobl Ddu mewn golygfeydd nu-metal yn y 2000au, gan herio rhai canfyddiadau ystrydebol o nu-metal ac i bwy mae’n apelio, gan hefyd gyfleu mai gwyn yw ei gynulleidfaoedd yn y DU yn bennaf. Ymhlith y ffotograffau hyn mae rhai byw iawn o “Foshio Nu-Metal” yn Brighton (2001) gan Rebecca Lewis, sydd hefyd yn cyfleu hunaniaeth “mileniwm newydd” nu-metal.

Y tu hwnt i'r Ddeuoliaeth Rap v. Metal
Fel y noda Matt Karpe yn y llyfr, Nu-Metal: A Definitive Guide: “yn ffurf o fetal amgen, roedd y term 'metal ymosodol' hefyd yn gysylltiedig â'r symudiad newydd diddorol hwn a ddaeth i’w adnabod yn fuan fel 'Nu Metal'. Gan gyfuno elfennau o fetal trwm, roc amgen, ffync, grynj a hip-hop i greu seinwedd sonig o bŵer ac emosiwn amrwd, roedd nu-metal wedi’i seilio’n bennaf ar riffiau gitâr ar adeg pan ddaeth gitarau wedi’u lawr-diwnio ac, yn aml, gitarau saith-tant yn gyffredin mewn ymgais i greu sŵn llawer trymach”. Mewn geiriau eraill, mae’r brics cerddorol yr adeiladwyd nu-metal ohonynt yn cynnwys creadigaethau pobl Ddu ar draws nifer o genres, fel cerddoriaeth pync pwerdy a metal cyflym y band Bad Brains.
Hyd heddiw, nid yw’n anarferol dod ar draws sylwebaethau ar apêl “groestoriadol” sy’n ennyn diddordeb gan grwpiau o bobl yr ystyrir eu bod yn anghydweddol fel arfer, yn aml oherwydd eu hunaniaethau hiliol a diwylliannol amrywiol. Ar adegau, mae’r cysyniad o gerddoriaeth “groestoriadol” yn gwthio syniadau am gerddoriaeth yn seiliedig ar ragdybiaethau gor-syml am hil a genres, megis canfyddiadau lleihaol o bwy sydd (a phwy sydd ddim) yn fetal. I ddychwelyd unwaith eto at Nu-Metal: A Definitive Guide, mae Karpe yn datgan, “tan i Aerosmith gydweithio â Run DMC ac Anthrax â Public Enemy, roedd yn amhosibl dychmygu hip-hop a cherddoriaeth drwm yn dod at ei gilydd”.
Yn aml, mae effaith nid yn unig rap a hip-hop, ond hefyd greadigrwydd, cŵl, ac estheteg Ddu yn gyffredinol, yn cael eu bychanu mewn sgyrsiau am nu-metal a'i ganghennau. Yn wir, mae hip-hop a rap wedi’u trin ar sawl achlysur fel pethau sy'n gwrthwynebu metal a roc “amgen”. Ond mae hanes metal a'r sffêr roc ehangach a’i hadeiladodd yn adrodd stori wahanol. Yn hytrach nag ystyried hip-hop a rap yn eisin ar deisen nu-metal, rwy'n eu hystyried yn lasbrint ar gyfer newydd-deb, arloesedd, ac apêl gyffredinol nu-metal. Maen nhw'n gwneud y gacen, nid dim ond ei melysu.
Nu-Metal a’r meme
Mae diwylliant digidol wedi bod yn rhan o nu-metal erioed, yn enwedig gan fod y gerddoriaeth hon wedi dod i’r amlwg yn y cyfnod pan ffrwydrodd cyfleoedd i lawrlwytho cerddoriaeth yn gyfreithlon (anghyfreithlon) (mae Limewire yn deall). Ond eto, mae nu-metal bellach yn dod dan ddylanwad llawer mwy o dechnolegau ac anianau algorithmau a defnyddwyr ar-lein sy'n eu hanimeiddio neu'n eu corddi. Fel yr ysgrifenna Jenessa Williams mewn darn i’r Museum of Youth Culture ar “Tracing Music Fandom Practice Through The Internet”: “Wrth i’r 2000au symud i’r 2010au, parhaodd y cynnydd yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol cerddorol. Roedd chwilio chwaeth dan arweiniad ffans yn dod yn fwy amlwg yn y genhedlaeth hits 'feiral', ond felly hefyd y cyfle i ymgysylltu ag artistiaid, a oedd yn gallu ymateb i negeseuon ffans neu ddosbarthu blog-byst yn haws a gyda mwy o greadigrwydd nag o'r blaen”.
Ers hynny, fel y mae Joy White yn cadarnhau yn Like Lockdown Never Happened: Music and Culture During Covid, mae'r rhyngrwyd a cherddoriaeth wedi dod hyd yn oed yn fwy rhyng-gysylltiedig. Mae hyn wedi arwain at lwyth o drafodaethau a disgrifiadau o gerddoriaeth sy'n deillio o rym diwylliant ailgymysgu digidol, fel memes, GIFs, a golygiadau ffancam. Yn y byd digidol sydd ohono, mae proffiliau a phostiadau cyfryngau cymdeithasol am nu-metal yn cyfuno cyfeiriadau i ac o lefydd diwylliant digidol/pop eraill. Felly, gallai nu-metal ddod “yn wylaidd iawn, yn ystyriol iawn”, o leiaf am ennyd pan fydd ffans a gwefannau nu-metal yn sylwi ar gyfryngau feiral y crëwr cynnwys deinamig Jools Lebron. Mewn geiriau eraill, mae'r rhyngrwyd wrth galon cof diwylliannol a chynrychiolaeth gyfoes nu-metal, megis postiadau cyfryngau cymdeithasol swynol a gwaith cyffredinol The Nu Metal Agenda.
Yng ngeiriau Andy Bennett ar isddiwylliannau ac ieuenctid, “erbyn y 1970au cynnar, mae tystiolaeth glir fod diwylliant ieuenctid ei hun yn dod yn eithaf ymwybodol o hunan-gyfeiriadol”. Dros 50 mlynedd yn ddiweddarach, mynegiadau hunan-gyfeiriadol o ddiwylliant ieuenctid yw asgwrn cefn llawer o ddiwylliant digidol, lle mae corws o gynnwys o lygad y ffynnon yn cyfuno eironi, ysgafnder, a sylwebaeth gymdeithasol sy’n gysylltiedig â phrofiadau ieuenctid – ddoe a heddiw. Mae'r hyn sy'n hen yn newydd eto, ac mae hyn yn cynnwys nu-metal.
Ar ôl tyfu’n aruthrol fel genre ac isddiwylliant ar drothwy’r 2000au, mae nu-metal yr un mor adnabyddus am ei berthynas â’r seroau ag y mae am ei guriadau sy’n cysylltu â cherddoriaeth ddoe. Golyga hyn fod deuoliaeth neu Duality (nòd i gân Slipknot yn 2004), o bosib wrth galon nu-metal – edrych ’mlaen at gyfnod newydd tra hefyd yn cael ei effeithio gan dynfa fagnetig y gorffennol. Felly, fe welwn dueddiadau cyfryngau cymdeithasol, fel yr hiwmor o baru “What I've Done” gan Linkin Park (2007) (y gerddoriaeth glo i’r ffilm Transformers (2007)) â golygfeydd clo ffilmiau eraill, gan gynnwys rhai eiconig mewn rhai achosion sydd, yn ganonaidd, yn ffilmiau Du.
Yn y bôn, mae nu-metal yn llawer llai caeedig nag o’r blaen. Mae datblygiad diwylliant digidol yn golygu na all llawer o gynnwys ar-lein gael ei gyfyngu gan gonfensiynau un genhedlaeth, sîn gerddoriaeth, gwefan neu isddiwylliant. Yn y byd digidol collage-aidd hwn, mae labeli genre newydd yn blaguro: ciw baddiecore.
Baddiecore a Menywod Du
Yng ngeiriau grymus Rosemary Lucy Hill ar Gender, Metal and the Media, “mae cerddoriaeth yn brofiad rhyweddol”. I dynnu eto ar weithiau hanfodol Dawes a Mahon, mae'n brofiad hiliol hefyd. Fel y myfyriais arno mewn gwaith cynharach ar artistiaid Du mewn metal a cherddoriaeth “amgen”, “Mae cerddoriaeth amgen Ddu heb os yn rhan o hanes du, ond mae’r genre [cerddoriaeth “amgen”] yn parhau i fod yn gysylltiedig â gwynder. Anaml y caiff menywod Du, yn benodol, eu cydnabod am eu gwaith yn y genre hwn, oherwydd goruchafiaeth bandiau gwyn a gwrywaidd yn sîns cerddoriaeth amgen y brif ffrwd.” Er gwaethaf, neu efallai oherwydd hyn, mae iteriadau metal diweddar yn cynnwys y label is-genre tafod-yn-y-foch “baddiecore” – a ysgogwyd gan bostiadau cyfryngau cymdeithasol, fel twît gan ddrymiwr Stray from the Path, Craig Reynolds, sy’n enwi Bad Omens, Sleep Token, a Spiritbox ymhlith y bandiau sydd wedi'u fframio fel baddiecore.
Yn aml rhwng y difrif a’r digrif, bwriad y term “baddiecore” yw disgrifio mathau o fetal caled y tybir bod ganddynt apêl rhyw gref, neu sŵn a/neu estheteg gyffredinol a ystyrir yn dra-rywiol (neu “sychedig”). Fel y trafodaf yn fanylach yn Look, Don’t Touch: Reflections on the Freedom to Feel, a gyd-ysgrifennwyd â layla-roxanne hill, mae baddiecore yn derm sy'n nodweddu rhannau o wleidyddiaeth hiliol, ryweddol a rhywiol metal, gan gynnwys ei ymwneud â – a’i esgeulustod o – gerddoriaeth menywod Du.
Yn ymarferol, defnyddir y label “baddiecore” mewn ymateb i fetal caled sydd â sŵn sy’n atseinio tôn felys ac ymarweddiad gostyngedig ond dramatig llinynnau o R&B a hip-hop, y cyfeiriwyd ato’n flaenorol fel cerddoriaeth “ystafell wely”. Yn y bôn, mae “baddiecore” yn teimlo fel ffordd o ddweud metal caled “du-aidd”, tra'n anwybyddu sut mae duder wedi siapio roc, metal, a'r syniad o fod yn baddie.
Mae’r term “baddie” (sy’n deillio o “bitsh ddrwg”) yn gysylltiedig ag ymadroddion diwylliannol Du Americanaidd ac fe’i defnyddir yn arbennig wrth gyfeirio at fenywod Du sy’n cael eu hystyried yn hunanfeddiannol, ac yn meddu ar ymdeimlad cryf o hunan-werth. Mae arwyddocâd y cysylltiad rhwng y term “baddie” a menywod Du yn amlwg wrth gofio, fel y noda Dawes, “yn arbennig i fenywod du, y dywedir wrthynt yn aml o oedran cynnar fod yn rhaid i ni fod yn fwy ymwybodol o sut mae eraill yn ein hamgyffred ni, mae sut rydyn ni'n ymddangos mewn cymdeithas yn aml yn bwysicach na mynnu ein hunigoliaeth.” Mae hyn yn golygu bod y gallu i ymgorffori hunaniaeth “baddie” yn rhywbeth y mae merched Du’n brwydro’n galed drosto, gan eu bod yn wynebu canfyddiadau cymdeithasol ataliol o’u/o’n cryfder a stoiciaeth dybiedig (fel y mae Megan Thee Stallion yn canu’n finiog ar y trac “Anxiety”, “bad bitches have bad days too…”).
Wrth gyfrif am hyn, a’r ffaith fod y label “baddiecore” yn cael ei ddefnyddio’n bennaf mewn perthynas â bandiau metal caled gwyn a/neu wrywaidd, mae’n gwneud i’r union gysyniad o “baddiecore” ymddangos fel un arall eto fyth sy’n symbol o wleidyddiaeth hiliol, ryweddol a rhywiol anghydnabyddedig metal a roc “amgen”. I grynhoi, mae'n arwydd o'r ffyrdd y mae diwylliant a chreadigrwydd Du, yn enwedig menywod Du, yn parhau i fod yn dra-gweledig ac anweledig mewn cerddoriaeth o'r fath. Beth yw baddiecore heb y baddies?
Wrth i labeli is-genre gan gynnwys “baddiecore” ac eraill barhau i dyfu, cael eu troi’n memes, a chael eu trafod, mae parhau i bryfocio a thaclo gwleidyddiaeth popeth sy’n ymwneud â metal yn parhau i fod yn hollbwysig. Yna eto, i gyfeirio’n ôl at eiriau Linkin Park, a’u haralleirio fel cwestiwn clo: yn y pen draw, oes ots?

Cefnogwyd yr ymchwil a’r gwaith yma gan gyllid o grant KEPSs IAA Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), a ddarparwyd drwy Brifysgol Caerdydd.
Mae Francesca Sobande (@chess_ess/@francescasobande.bsky.social) yn awdur a darllenydd mewn astudiaethau’r cyfryngau digidol (Prifysgol Caerdydd), sydd wedi cyhoeddi'n eang mewn cyfnodolion, cylchgronau a safleoedd ar-lein ar y cyfryngau, diwylliant, cerddoriaeth, a'r rhyngrwyd. Mae ei llyfrau yn cynnwys The Digital Lives of Black Women in Britain (Palgrave Macmillan) a gyhoeddwyd yn 2020, Consuming Crisis: Commodifying Care a COVID-19 (SAGE) a gyhoeddwyd yn 2022, a Big Brands Are Watching You: Marketing Social Justice and Digital Culture (University of California Press, 2024), cyhoeddwyd yn 2024. Yn ogystal, cyhoeddwyd llyfr Francesca gyda layla-roxanne hill, Black Oot Here: Black Lives in Scotland (Bloomsbury), yn 2022. Gwnaethon nhw hefyd gyd-ysgrifennu’r nofel graffig Black Oot Here: Dreams O Us a hunangyhoeddedig yn 2023, a'r llyfr newydd, Look, Don't Touch: Reflections on the Freedom to Feel (404 Inc, 2025).

Llyfryddiaeth
Bailey, Moya (2010) “They aren’t talking about me…”. The Crunk Feminist Collective, 14 March.
Bennett, Andy (2020) “Hebdige, Punk and the Post-subcultural Meaning of Style”. In Hebdige and Subculture in the Twenty-First Century: Through the Subcultural Lens, eds the Subcultures Network, Cham: Palgrave Macmillan, 11–28.
Dawes, Laina (2012) What Are You Doing Here?: A Black Woman's Life and Liberation in Heavy Metal. New York: Bazillion Points.
hill, layla-roxanne and Sobande, Francesca (2025) Look, Don’t Touch: Reflections on the Freedom to Feel. Edinburgh: 404 Ink.
Hill, Rosemary Lucy (2016) Gender, Metal and the Media: Women Fans and the Gendered Experience of Music. Basingstoke: Palgrave Macmillan.
Karpe, Matt (2021) Nu-Metal: A Definitive Guide. Gloucestershire: Sonicbond Publishing.
Sobande, Francesca (2022) “Black artists don’t just make hip hop – why recognition of metal, punk, rock and emo by Mobo is long overdue”. The Conversation, 29 November.
Sobande, Francesca (2020) The Digital Lives of Black Women in Britain. Cham: Palgrave Macmillan.
White, Joy (2024) Like Lockdown Never Happened: Music and Culture During Covid. London: Repeater Books.
Williams, Jenessa (2023) “Tracing Music Fandom Practice Through The Internet”. Museum of Youth Culture, 1 September.